
cymuned Ystrad Fflur
Mae Prosiect Ystrad Fflur wedi bod yn gweithio’n agos gyda chymuned leol Pontrhydfendigaid a’i hardal ers y dechrau ac mae’n rhan hanfodol bwysig o’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni.
strata florida ~ ystrad fflur

Cymuned
Mae Prosiect Ystrad Fflur wedi bod yn gweithio’n agos gyda chymuned leol Pontrhydfendigaid a’i hardal ers y dechrau ac mae’n rhan hanfodol bwysig o’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni. Rydym bellach yn symud i gyfnod newydd: mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur wedi penodi Helen Whitear yn Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned a dyma’r dudalen we sydd wedi’i phriodoli i’r rôl honno. Mae’r prosiect sy’n dwyn yr enw Camau Bach eisiau i bobl leol, grwpiau a busnesau gymryd rhan, a bod yn rhan o’r ymdrech i adfywio safle hanesyddol Abaty Ystrad Fflur ac adeiladau fferm Mynachlog Fawr, wrth i ni gydweithio i’w rhoi’n ôl lle dylai fod: yng nghanol map diwylliannol Cymru.

Eich hanes a’ch treftadaeth
Carem glywed gennych os oes gennych atgofion o’r ardal o gwmpas Ystrad Fflur a’r Bont – a wnaethoch dyfu i fyny neu symud yma? Oes gennych hen ffotograffau neu wybodaeth arall am leoedd neu ddigwyddiadau lleol sy’n casglu llwch yn y llofft? Byddwn yn gweithio gyda ‘Casgliad y Werin’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn helpu gwneud yn siŵr bod hanes yr ardal yn cael ei hadrodd gan y bobl sy’n ei adnabod orau, ac nad yw’r atgofion lleol yn cael eu colli.

Beth sy’n digwydd yn Ystrad Fflur?
Rydym yn trefnu sgyrsiau, gweithdai cymunedol, teithiau cerdded dan arweiniad a theithiau hetiau caled o fferm Mynachlog Fawr. Bydd cyfleoedd i glywed mwy am hanes yr Abaty ei hun, a’r dirwedd o’i gwmpas, dal i fyny ar y darganfyddiadau diweddaraf ar y safle, cymryd rhan yn y cloddiadau archeolegol, helpu ymchwilio i hanesion lleol a darganfod mwy am hanes rhyfeddol fferm Mynachlog Fawr wrth i’r broses o adfer ac adfywio’r adeiladau fynd rhagddi.
Bydd digon o gyfleoedd i wirfoddoli a chymryd rhan ar hyd y prosiect, felly cadwch i fyny gyda’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2019, cadwch ymweld â’r dudalen hon i gael gwybod am ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Cymryd rhan
Ym mis Ionawr 2020 dechreuon ni weithio yn didoli, catalogio ac archifo'r deunyddiau a'r dogfennau papur yn Ffermdy Mynachlog Fawr.
Mae myfyrwyr ar y cwrs MA Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio hwn fel prosiect i ddatblygu sgiliau. Fel rhan o'u prosiect byddant yn cynhyrchu cyfres o flogiau, a ddangosir isod.
Blog 1

.jpg)
Blog 2




Blog 3






Mwy o ddiweddariadau yn dod yn fuan...
Rhan nesaf y prosiect fydd catalogio’r llu o eitemau gwych sy’n aros o fewn y ffermdy. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni i helpu i gwblhau'r dasg hon, os gwelwch yn ddacysylltwch â ni.

Cymryd rhan
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn unrhyw ffordd,
carem glywed gennych.
Os ydych chi’n rhan o grŵp lleol a hoffech gael gwybod mwy am brosiect Ystrad Fflur, neu am ein digwyddiadau a’n gweithgareddau sydd ar y gweill, byddem yn hapus i siarad gyda chi am sut gall eich grŵp gymryd rhan, felly cysylltwch fan hyn

Cysylltwch
Cysylltwch â Gill , ein Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned, am fanylion pellach:
Ffôn 01974 831 760
e-bost - community@strataflorida.org.uk

Gweithgareddau Cymunedol Blaenorol
Ymhlith rhai o’r prif ddigwyddiadau oedd
-
Rhaglen rhwng rhanbarthau o’r UE sy’n cynnwys Pontrhydfendigaid a phentref Kells yn Swydd Kilkenny lle mae adfeilion Priordy Awstinaidd o’r oesoedd canol. Yn 2005 a 2006, cynhaliom arddangosfeydd o gerflunwaith dilynol yn dangos gwaith artistiaid gorau Cymru ac Iwerddon yn yr adfeilion pensaernïol ac o’u cwmpas.
-
Rhaglen waith, dan Gronfa Datblygu Gwledig yr UE i wella’n dealltwriaeth o dirweddau hanesyddol yr ardal a chynyddu dealltwriaeth a mynediad y cyhoedd iddynt. , digwyddiad deuddydd ym mis Gorffennaf 2017 a wnaeth arddangos hanes a chysylltiadau diwylliannol y safle gyda llu o berfformiadau, arddangosiadau, darlithoedd, teithiau cerdded dan arweiniad a phedwar gwasanaeth gwahanol sy’n adlewyrchu traddodiadau Cristnogol amrywiol y gymuned a’i hanes.
