
strata florida ~ ystrad fflur

Dysgu
Ysgol yr Abaty

Pan oedd y fynachlog yn ei hanterth, un o’i rolau pwysicaf oedd addysgu a hyfforddi bechgyn ifanc i fod yn llythrennog a chymryd eu lle ymhlith rheolwyr a gweinyddwyr y byd seciwlar ac eglwysig. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, rodd ysgol wledig fach wedi’i lletya yn yr adeilad sydd bellach yn nwylo Cadw fel derbynfa ac amgueddfa. Mae’r Ymddiriedolaeth yn mynd i barhau gyda’r traddodiad hwn yn y byd modern, trwy ddysgu am y gorffennol a’r perthnasedd sydd ganddo o hyd yn y presennol ac i’r dyfodol.
Caiff ein gwaith gydag ysgolion, yn enwedig ar lefel gynradd, ei sianelu trwy Ysgol yr Abaty, ffordd rydym yn cyflwyno profiad o orffennol a gwaith yr ardal trwyddi i greu cyfleoedd a deunyddiau dysgu i athrawon. Amrywia’r profiadau o gloddio ar y safle i lanhau canfyddiadau, gweld labordy amgylcheddol ar waith, darllen mapiau hanesyddol neu wneud ymchwil ar-lein ar gyfer prosiectau. Mae’r deunyddiau ar gael ar-lein trwy ei wefan.

Y Brifysgol
Rydym wedi gweithio’n agos gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu ymarfer hyfforddi a chyrsiau academaidd archeolegol, hanes a threftadaeth. Bydd y rhain yn parhau i dyfu gyda’r brifysgol yn ein cynorthwyo i sicrhau bod pob cwrs a phrofiad ar gael fel modiwlau wedi’u hachredu’n llawn i’w trosglwyddo i’w defnyddio gan fyfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau eraill. Bydd yr un cyntaf ar gyfer Ysgol Haf 2019.

Ymchwil
Rhan fawr o’r prosiect fu rhaglen ymchwil barhaus, dan gyfarwyddyd yr Athro David Austin, sy’n ein helpu ni i ddatblygu ac olrhain stori gymhleth Ystrad Fflur, ei dirweddau a phedair mil o flynyddoedd o hanes a chynhanes. Mae hyn yn cynnwys cloddio, geoffiseg, arolwg, ymchwil i ddogfennau gan gynnwys mapiau mewn archeoleg, hanes, treftadaeth a nifer gynyddol o ddisgyblaethau eraill o’r celfyddydau creadigol i’r gwyddorau amgylcheddol. Mae Ystrad Fflur yn arwain y ffordd hefyd o ran cyflwyno Prosiect Ymchwil AHRC pwysig ar ‘dirweddau cysegredig mynachlogydd yr oesoedd canol; astudiaeth ryngddisgyblaethol o ystyr wedi’i ymgorffori mewn lle a chynhyrchiant’.

Hyfforddiant Proffesiynol
Mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn Ystrad Fflur, sy’n cynnwys archeoleg, cadwraeth a datblygu, yn darparu llu o gyfleoedd i hyfforddi mewn ystod o ysgolion sy’n berthnasol i’r byd modern. Mae galw mawr am bobl sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn y proffesiynau hyn a phroffesiynau cysylltiedig yn y byd modern lle mae twristiaeth, er enghraifft, yn elfen mor bwysig o economi’r byd. Gyda chadwraeth a chynaliadwyedd ar flaen ein pryderon byd-eang hefyd, mae gan y proffesiynau hyn ran enfawr i’w chwarae yn ein gwarchodaeth tymor hir o’r byd. Mae Partneriaeth Ystrad Fflur bellach yn datblygu ei chyrsiau a’i phecynnau hyfforddiant a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf mewn partneriaeth â phrifysgolion a chyrff proffesiynol.

Dysgu Anffurfiol
Nid yw’r holl ddysgu’n digwydd o fewn strwythurau ffurfiol addysg ac mae’n broses gydol oes. Mae prosiect Ystrad Fflur yn ei holl ffurfiau yn cynnig llawer o gyfleoedd i bobl nad ydynt yn mynd ar drywydd cymhwyster ffurfiol i ddod i ddysgu am ystod fawr o bynciau ar ymweliadau ac mewn cyrsiau dydd neu benwythnos o hyd, yn ogystal â thrwy wirfoddoli ar sail hwy. Bydd rhai sesiynau blasu ar hyn yn 2019 gyda rhaglen lawn yn cael ei chyflwyno yn 2020. Bydd y pecyn cyflawn cyntaf yn ystod ein Hysgol Haf Archeoleg ym mis Awst a mis Medi 2019.

Deunyddiau Addysgol
Trwy ei raglenni addysgol a’i ymchwil, mae Ystrad Fflur yn parhau i greu cronfa ddata helaeth o wybodaeth a deunyddiau addysgu o lefelau cynradd i drydyddol. Rydym yn rhoi cymaint o hyn â phosibl ar y wefan hon i’r cyhoedd eu defnyddio.